Agnes MayJONESMawrth 15fed 2024
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Bae Colwyn yn 87 mlwydd oed ac o Melita, Ffordd Llanddoged, Llanrwst.
Priod annwyl a ffyddlon y diweddar Bob (Llefrith), mam a mam yng nghyfraith gariadus a charedig i Annwen a Gwynfor ac Elwyn a Louise, nain balch i Dyfrig, Gwennan, Carwyn a Ruth, Aron a Llio a Sion ac Angharad a hen nain hoffus, gweler ei cholli'n fawr gan ei theulu a ffrindiau lawer.
Gwasanaeth yng Nghapel Tabernacl, Llanrwst, ddydd Mawrth Ebrill 9fed am 1.30 o'r gloch, ac yn dilyn rhoddir i orffwys ym Mynwent Cae Melwr.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ward 2 yn Ysbyty Bae Colwyn a Chapel Tabernacl trwy law
R.W. Roberts a'i Fab
Plas Tirion, Rhodfa Kinmel,
Abergele LL22 7LW
Ffôn 01745 827777.
Keep me informed of updates